Parc Bailey, Y Fenni

Parc Bailey, Y Fenni

Ar 31 Rhagfyr 1883, lesiwyd Dôl y Priordy Priory meadow i’r haearnfeistr Crawshay Bailey am gyfnod o 21 mlynedd. Datblygwyd y safle ganddo yn barc. Cododd glwydi a ffensys; ffurfiwyd pwyllgor rheoli; cyflogwyd gofalwr i’r parc. Yna agorodd y parc i’r cyhoedd.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 1887, parhaodd y pwyllgor i reoli’r parc. Yn 1894 roedd Comisynwyr Gwelliannau y Fenni wedi benthyca, a derbyn rhoddion gan amryw aelodau o deulu Crawshay Bailey a phrynwyd y rhyddfraint. Trwy weithred newid enw, diogelwyd yr enw Bailey Park. Yn ddiweddarach câi’r parc ei reoli gan Gyngor Tref y Fenni (hwythau wedi disodi’r Comisynwyr Gwelliannau) ac yn ddiweddarach gan Gyngor Sir Mynwy.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y parc ym mis Awst 1913. Cynhaliwyd rhai o’r seremonïau oedd yn gysylltiedig â’r eisteddfod yn y cylch cerrig a godwyd yn benodol ar gyfer yr achlysur. Maen nhw i’w gweld erbyn hyn yn Swan Meadows.

Agorwyd pwll nofio yn y parc yn 1938. Pwll awyr agored oedd hwn yn mesur 39 x10 metr (128 x35 troedfedd) ynghyd â phwll padlo a ffynnon. Yr hyfforddwr nofio cyntaf i’w gyflogi gan Gyngor Sir Mynwy oedd Bill Edwards. Dechreuodd ef ddysgu plant i nofio yn afon Wysg ger castell y Fenni. Wedi iddo adael y fyddin, lle y bu’n hyfforddi ymarfer corff, dechreuodd ar ei waith yn y pwll newydd ym Mharc Bailey. Bu Bill farw yn 1960.

Cadwyd y pwll yn agored trwy ymdrechion Cyfeillion Pwll Parc Bailey a hwythau wedi agor caffi a chodi arian i dalu am welliannau ac offer. Ond yn 1966 penderfyniad Cyngor Tref y Fenni oedd cau’r pwll gan fod angen gwneud llawer o waith er mwyn cwrdd â rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae modd gweld ôl y pyllau o hyd dan y trefniannau heirdd o flodau yn y gwelyau.

Mae Parc Bailey yn lleoliad poblogaidd ar gyfer chwaraeon a dyma faes Clwb Rygbi y Fenni. Mae yma le chwarae i blant yn ogystal. Ymysg y gweithgareddau a gynhelir ar y Parc y mae Sioe Peiriannau Ager, Ffair Ceffylau Gwedd, ffeiriau pleser y dref, cyngherddau bandiau a Gŵyl Arwyr Cymru.

Cyfieithiad gan Yr Athro Dai Thorne


Map