Towyn sea defences Cymraeg

Amddiffynfeydd morol Towyn

Draeniwyd tir i’r gorllewin o'r afon Clwyd o dan bwerau Seneddol o 1793. Yn yr 1840au, codwyd amddiffynfeydd morol gan gwmni’r Chester & Holyhead Railway. Roedd yr adeiladau a ddatblygwyd ar y tir isel yma yn dibynnu ar y cwmni rheilffordd i gadw’r môr allan.

Ar 26 Chwefror 1990, torrodd y môr drwy’r amddiffynfeydd am tua 400 metr yn Nhowyn, o dan effaith storom ffyrnig, llanw uchel ac ymchwydd o ddŵr tua 1.5 medr o uchder. Daethpwyd â badau achub a hofrenyddion i hel y trigolion allan wrth i ddŵr y môr foddi tai a charafannau. Roedd tua 10km sgwâr o dir o dan ddŵr.

Gadawodd y llifogydd tua 6,000 o bobl yn ddigartref dros dro. Collodd lawer eiddo heb yswiriant. Chwe mis yn ddiweddarach, roedd oddeutu 1,000 yn dal heb ddychwelyd i’w cartrefi. Amharodd y llifogydd ar rhwy 2,800 o adeiladau a charafanau yn Nhowyn, Pensarn a Bae Cinmel. Dioddefodd nifer llai o bobl a chartrefi yn Y Rhyl, Prestatyn a Ffynnongroyw. Daeth y bil ar gyfer Cyngor Sir Clwyd yn unig at £2.5m. Cafwyd dadleuon ynghylch ai British Rail, perchennog y seilwaith rheilffyrdd, oedd yn atebol am y difrod.

Cryfhawyd yr amddiffynfeydd arfordirol, drwy pentyrru creigiau ar ochr morol y wal môr i ffurfio revetment. Cynhaliodd pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin ymchwiliad i’r llifogydd. Dangosodd y llifogydd i awdurdodau o amgylch Prydain pa mor bwysig oedd sicrhau bod amddiffynfeydd arfordirol yn ddigonol ar gyfer dyfodol pan fyddai digwyddiadau tywydd eithafol yn debygol o fod yn fwyfwy cyffredin.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL22 9LD

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button