Olion Castell Aberystwyth

tour logo and link to information page

Olion Castell Aberystwyth

aberystwyth_castle_ruinsOlion yw’r waliau cerrig hyn o un o’r amryw gestyll a godwyd gan y Brenin Edward I wrth iddo geisio darostwng Cymru. Dechreuwyd adeiladu Castell Aberystwyth yn Awst 1277, a’i gwblhau yn 1289. Roedd yn gynllun ar raddfa fawr ac yn gonsentrig (gan ffurfio clostir o fewn clostir).

Cipiwyd y castell yn Ebrill 1404, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Am y pedair blynedd nesaf, bu’r castell yn ganolfan gweinyddol ar gyfer rhan reit helaeth o Gymru a oedd yn cael ei rheoli gan Glyndŵr. O bryd i'w gilydd mae'n debygol iddo gynnal llys yn y castell. Ym 1408 cafodd y castell ei gipio drachefn gan luoedd Lloegr, a chiliodd Glyndŵr a’i wŷr tua’r gogledd i Gastell Harlech.

Tybid y byddai’r castell yn rhwystro byddin dibrofiad Harri Tudur wrth iddi deithio’n ebrwydd o Sir Benfro i gyfeiriad Bosworth yn Awst 1485. Yn ôl yr hanesydd Polydore Vergil (c.1470-1555), roedd y castell yn eiddo i’r Arglwydd Ferrers ac ychydig o filwyr oedd yn ei warchod. Cipiwyd y castell yn ddiffwdan gan filwyr Harri.

Roedd hyn yn cyfiawnhau cynlluniau teithio Harri wrth iddo symud i gyfeiriad Bosworth ar hyd llwybrau diarffordd. Roedd am osgoi gwrthdaro sylweddol cyn i’w fyddin gynyddu o ran nifer a chael eu traed tanynt. Wedi iddo orchfygu’r Brenin Richard III ar faes Bosworth, coronwyd Harri’n Frenin Harri’r VII. Dyma sefydlu llinach y Tuduriaid, a chafodd y Tuduriaid ddylanwad pwysig ar hanes Prydain.

Ym 1637 derbyniodd Thomas Bushell drwydded swyddogol gan y Brenin Siarl I i fathu darnau arian yng Nghastell Aberystwyth. Roedd Bushell eisoes wedi cael prydles ar fwyngloddiau arian yng Ngheredigion. Cludid yr arian (sef y metel crai) i’r bathdy yn Lundain, ond perswadiodd Bushell y brenin y gellid gwneud y gwaith yn lleol. Cafodd ei awdurdodi i ddefnyddio arian Cymreig i wneud y darnau arian canlynol: darnau hanner coron, swllt, hanner swllt, grot, tair ceiniog, dwy geiniog, ceiniog a hanner ceiniog.

Caewyd y bathdy adeg y Rhyfel Cartref. Ym 1646 meddiannwyd Castell Aberystwyth gan filwyr y Senedd, a dinistriwyd y rhan fwyaf ohono fesul darn. Mae'r llun uchod yn dangos yr olion yn y 1890au.

Yn 2001 dangosodd awyrluniau ei bod yn debygol i’r tir rhwng y castell a'r gofeb ryfel gael ei ddefnyddio i dyfu cnydau ar ryw adeg yn y gorffennol.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Map

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button