Ffordd hanesyddol Telford

Ffordd hanesyddol Telford

Trawsnewidiodd y peiriannydd o fri Thomas Telford y daith rhwng Llundain a Chaergybi gyda'i ffordd newydd. Yn flaenorol, roedd y daith yn dilyn ffyrdd cyntefig 18 o Ymddiriedolaethau Tyrpeg. Pwysodd Aelodau Seneddol Gwyddelig a Swyddfa'r Post am lwybr cyflymach a mwy dibynadwy ar gyfer yr Irish Mail, ac fe arolygodd Telford y llwybr yn fanwl yn 1815.

Coronodd ei waith â’r bont grog feiddgar dros y Fenai, ond mae'r llwybr – yr A5 bellach – yn cynnwys llawer o enghreifftiau gwych eraill o beirianneg sifil wrth iddo basio drwy ucheldiroedd Gogledd Cymru. Mynnai Telford sylfeini cadarn i’r ffordd, ac yn 2000 cadarnhaodd astudiaeth archeaological gan Cadw bod tua 40 % o'r ffordd gwreiddiol yn parhau i fod, o dan ac wrth ymyl y ffordd fodern. Sicrhaodd Telford hefyd nad oedd y ceffylau a dynnai’r coetsys yn gorfod dringo yr un graddiant fwy serth nag 1 mewn 20.

Mae taith HistoryPoints ar hyd yr A5 yn datgelu sut y dylanwadodd y ffordd ar gymunedau ar hyd y llwybr, yn ogystal ag agweddau diddorol eraill o hanes lleol gan gynnwys llên gwerin a'r ystyron enwau lleoedd. Os ydych yn gyrru ar hyd yr A5, gallwch stopio mewn mannau diddorol ar hyd y ffordd a defnyddio ein codau QR a’ch ffôn glyfar i ddysgu am bob man. Ond cofiwch  beidio â defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru.

Ym mhob lleoliad, gallwch sganio'r cod QR cyntaf ar gyfer testun cryno am gefndir y lle hwnnw. Sganiwch yr ail cod i lawrlwytho'r dudalen berthnasol o HistoryPoints.org i'ch ffôn glyfar neu dabled. Unwaith y byddwch wedi darllen y dudalen, gallwch ddefnyddio’r eiconau llywio ar waelod y dudalen i ddarganfod y lle dan sylw nesaf ar hyd y llwybr yng nghyfeiriad eich siwrne.

I bori’r daith ar-lein, dewiswch un o'r pwyntiau mynediad i'r llwybr isod.

Caergybi
Valley
Llanfairpwll
Porthaethwy
Bangor
Bethesda
Llyn Ogwen
Capel Curig
Betws-y-Coed
Pentrefoelas
Cerrigydrudion
Corwen
Llangollen
Froncysyllte
Y Waun