Cyn Gartref Mary a Robert Silyn Roberts, Tanygrisiau

button-theme-womenCyn Gartref Mary a Robert Silyn Roberts, Tanygrisiau

Dyma Afallon, cartref Silyn a Mary Silyn Roberts, Sosialwyr brwd a sylfaenwyr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (y WEA) yng Ngogledd Cymru. Wedi priodi, buont yn byw yma o 1905 tan 1913. Cartref preifat yw hwn, peidiwch a dod ymhellach na'r giât.

tanygrisiau_mary_robertsGŵr o Ddyffryn Nantlle oedd Robert Silyn Roberts (1871 – 1930) a adawodd ysgol yn 13 oed i fynd i'r chwarel. Wedi pum mlynedd yn y chwarel, aeth i Ysgol Clynnog, ac oddi yno i Brifysgol Bangor a Choleg y Bala. Bu'n weinidog efo'r Methodistiaid yn Lewisham, Llundain am bedair blynedd, ac yn 1905 daeth yn weinidog Bethel,Tanygrisiau.

Gwnaeth waith mawr efo'r ILP (yr Independent Labour Party), a bu'n gynghorydd tra yn byw yn y Blaenau. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1902, ac ef yw awdur Llio Plas y Nos.

tanygrisiau_silyn_robertsYn Llundain y magwyd Mary Silyn Roberts (1877-1972). Parry oedd ei henw morwynol. Hi oedd un o'r merched cyntaf i ennill gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cael ei phenodi yn ddarlithydd yno. Tra yn yr ysgol, enillodd ysgoloriaeth i fynd i Ddenmarc. Ym 1904 a 1905, ymwelodd y ddau â Denmarc i astudio addysg oedolion yno.

Caiff y ddau eu cofio am eu gwaith arloesol yn gwella amodau'r dosbarth gweithiol a'u gwaith diflino efo'r WEA. Sefydlwyd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1903 i ddarparu addysg i oedolion. Wedi i Silyn farw ym 1930, parhaodd Mary Silyn efo'r gwaith tan y 60au.

Ym 1926, wedi trefnu gorymdaith heddwch i Lundain dan y faner 'Hedd Nid Cledd', bu Mary Silyn yn un o'r rhai a anerchodd y miloedd mewn rali yn Hyde Park, Llundain – yn Gymraeg. Roedd ganddynt dri o blant, Glynn, Meilir a Rhiannon.

Gyda diolch i Angharad Tomos

Cod post : LL41 3RH    Map