Safle traphont ddŵr a loc y gamlas, Heol y Gogledd, Caerdydd

button-theme-canal

 

Ger mynediad Heol y Gogledd Parc Bute mae loc Camlas Sir Forgannwg. I’r de o’r loc roedd traphont ddŵr  – mae’n anarferol gan ei bod wedi cario un gamlas dros y llall!

cardiff_north_road_canal_lockCafodd y llun – gyda diolch i Lyfrgelloedd Caerdydd – ei dynnu oddeutu 1910. Gallwch weld rhan o gât loc y gogledd ar y chwith. Mae’r ardal, sydd bellach yn cael ei galw’n Barc Bute, y tu hwnt i’r coed. Rhoddodd y cerrig mawr yng ngwaelod y gornel dde droedle cryf i “ddyn y gât” wrth iddo wthio’r bar llorweddol oedd yn agor a chau’r gât.

Cafodd cychod o gyfeiriad Pontypridd eu gollwng yn y loc (drwy ddraenio’r dŵr o’r gofod rhwng gatiau’r lociau). Wrth adael y loc, roeddent yn pasio dan bont oedd yn cysylltu ochr ogleddol Castell Caerdydd â Heol y Gogledd. Yna, roeddent yn croesi’r draphont ddŵr dros y gamlas oedd yn cyflenwi’r dociau, sy’n dal i redeg drwy Barc Bute hyd heddiw.

Gan ddechrau yn afon Taf yn Blackweir, mae’r gamlas sy’n cyflenwi’r dociau’n adnewyddu’r dŵr yn Nociau Caerdydd. Pan gafodd ei greu yn yr 1830au, roedd rhaid i’r llwybr basio dan Gamlas Sir Forgannwg (oedd rhwng yr afon a’r dociau). Cafodd y cynllun gwreiddiol i gloddio twnnel o dan Heol Eglwys Fair a’r gamlas ei ddiystyru’n gyflym iawn, gan fod y gamlas yn rhy isel yno.

Yn yr hen luniau, gallwch weld tŷ pwyso’r gamlas, ger fframwaith haearn a loc arbennig er mwyn gwirio pwysau cychod ar hap. Cafodd y peiriant ei adeiladu yn 1834 gan Brown, Lenox & Co, Pontypridd. Cafodd ei osod am y tro cyntaf yn Nhongwynlais. Cafodd ei symud i loc Crockherbtown yn 1850 ac i loc Heol y Gogledd yn 1894. Roedd cawell yn hongian o’r fframwaith yn dal y cwch yn ei le wrth i’r dŵr ddraenicardiff_north_road_lock_and_bridgeo o’r loc pwysau, gan alluogi teclyn i gofnodi pwysau’r cwch.

Cafodd y peiriant ei arbed pan gaeodd y gamlas yn 1945, ac mae bellach yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd
Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button
I barhau â thaith Parc Bute, gadewch y parc, trowch i’r dde, ewch ar hyd y pafin ac i lawr at y danffordd. Mae’r côd QR nesaf i’r dde o fynedfa’r danffordd Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-dock-feeder Navigation up stream buttonNavigation downstream button