Siop yr Arth, Caerdydd

Siop yr Arth, 12/14 Rhodfa Wyndham, Caerdydd

cardiff_bear_shop_bearNid yw Siop yr Arth yn enw y byddech yn disgwyl i ddynodi siop tybaco mwyaf Cymru, ond mae’r rheswm dros yr enw yn amlwg pan edrychwch drwy'r ffenestr i'r dde o'r drws. Yma y saif arth o Rwsia sydd tua 200 mlwydd oed.

Cyrhaeddodd Bruno’r arth tua 1906, pan oedd y busnes mewn siop gyfagos ar Heol Santes Fair. Gadawodd dyn yr arth yno heb unrhyw esboniad heblaw ei fod wedi bwriadu rhoi’r arth i rywun arall, a wrthododd yr arth.

Roedd Bruno wedi tyfu tua 70% o faint llawn arth pan fu farw. Er ei fod yn edrych fel anifail wedi’i stwffio, mae ei groen fel lledr ac yn gorwedd ar ffrâm. Mae'r tu mewn yn wag. Arferai Bruno sefyll y tu allan i'r siop yn Heol Santes Fair yn ystod tywydd sych, gan ddenu cwsmeriaid. Ar ddiwedd y 1980au, torrodd rhai cefnogwyr rygbi ei bawennau blaen. Fe ail-osodwyd y pawennau yn ddiweddarach â gofal. Mae Bruno wedi aros dan do byth ers hynny. Mae'r llun o Bruno y tu allan yn ymddangos yma trwy garedigrwydd Siop yr Arth.

O 1870 ymlaen, gweithredai’r siop tybaco yn wreiddiol o dan enw WA Lewis yn Heol Santes Fair. Pan fu farw’r sylfaenydd, William Arthur Lewis, yn 1928, pasiodd y busnes i feddiant ei ferch Winifred a'i gŵr Harold Darbey. Roeddent yn masnachu  fel Lewis Darbey a’u Cwmni. Symudodd y siop i Wyndham Arcade yn 1990 ac arhosodd yn y teulu Darbey tan 2000, pan gafodd ei brynu gan AE Lloyd a’i Feibion a’i ailenwi Siop yr Arth.

Yn 2010 prynwyd y busnes gan fasnachwr sigâr Havana House, a heddiw mae’n un o gyflenwyr mwyaf Prydain o bibellau a thybaco rholio. Mae un ystafell wedi ei neilltuo ar gyfer arddangos sigarau o bob cwr o'r byd.

Cod pôst: CF10 1FJ    Map

Gwefan Siop yr Arth