Traphont a damwain trên Llanddulas

sign-out

Traphont a damwain trên Llanddulas

Ar 17 Awst 1879, dymchwelwyd y draphont rheilffordd gwreiddiol dros yr afon Dulas gan ddŵr yr afon. Saith diwrnod yn ddiweddarach, agorodd y London & North Western Railway bont isel dros dro, efo trac newydd yn codi i’r naill ochr i gysylltu â’r brif linell. Yn y cyfamser, creuodd gweithdai’r cwmni yng Nghryw (Crewe) deciau dur ar gyfer traphont newydd.

Old photo of Llanddulas railway viaductAdeiladwyd chwe piler carreg yn gyflym, gyda’r gwaith yn parhau drwy’r nos. Dyma un o’r adegau cyntaf erioed i oleuadau trydan cael eu defnyddio ar safle adeiladu. Ail-agorodd y bont ar 14 Medi. Mae'r llun, trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau Conwy, yn dangos y strwythur ar ddechrau'r 20fed ganrif gyda thrên o gerbydau teithwyr chwe olwyn yn croesi.

Ar 20 Awst 1868, fe fu damwain drychinebus o ganlyniad i gamgymeriad siyntio wagenni nwyddau yn Llanddulas. Roedd y trên nwyddau i fod i redeg o flaen yr Irish Mail a bacio i mewn i seidins yn Llanddulas er mwyn gadael i’r trên chwim i basio. Ar y diwrnod hwnnw, roedd yna wagenni yn barod yn y seidins, felly rhannwyd y trên nwyddau yn ddau i ffitio. Defnyddiwyd dull o’r enw fly shunting – lle y byddai’r injan yn gwthio wagenni a ddatgysylltwyd a gadael iddynt rholio ymlaen – i ychwanegu un wagen at y rhai oedd yn dal i sefyll ar y brif linell. Pan drawodd y wagen y gweddill, roedd y sioc yn ddigon i dorri gêr yn y fan brêc, a dechreuodd y wagenni ddisgyn ar hyd y trac tuag at Abergele.

Trawodd yr Irish Mail y wagenni i’r gorllewin o orsaf Abergele a Phensarn. Roedd casgenni o baraffîn y tu fewn i dau o’r wagenni, a chyn hir roedd y llanastr yn wenfflam. Fe laddodd y ddamwain 33 o bobol, gafodd eu claddu mewn un bedd ger Eglwys Sant Mihangel, Abergele. Yn ogystal, bu farw gyrrwr yr Irish Mail yn ddiweddarach o'i anafiadau.

Dau o'r llygad-dystion agosaf oedd Frank Harris, bachgen ysgol, a Gertrude Hanniford, 15, a oedd yn cerdded gerllaw. Dringon nhw ffens i gyrraedd y llanastr. Roedd Frank yn cofio'r digwyddiad yn ddiweddarach, cymaint am yr agosatrwydd annisgwyl o helpu Gertie dros y ffens ag am ddrama'r ddamwain. Cafodd hunangofiant Frank, a gyhoeddwyd ym Mharis yn y 1920au, ei wahardd am ddegawdau ym Mhrydain ac UDA oherwydd ei fod yn manylu ar fywydau carwriaethol ei hun ac enwogion.

Cod post: LL22 8HG    Map

Gwefan Gwasanaeth Archifau Conwy

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button